Ffeithiau LHDT Diddorol Heddiw
1. Mae 72 y cant o fenywod deurywiol a 56 y cant o ddynion deurywiol wedi profi pryder yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
2. Mae un o bob wyth o bobl LHDT wedi profi triniaeth anghyfartal gan staff gofal iechyd oherwydd eu bod yn LHDT.
3. Mae 35 y cant o LHDT wedi cuddio eu bod yn LHDT yn y gwaith rhag ofn gwahaniaethu.
4. Mae 28 y cant o fyfyrwyr LHDT yn dweud iddynt gael eu hallgáu gan fyfyrwyr eraill am fod yn LHDT.
5. Mae un o bob pump o bobl LHDT wedi profi trosedd neu ddigwyddiad casineb oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol yn y 12 mis diwethaf.
6. Ni wnaeth pedwar o bob pump o bobl LHDT sydd wedi profi trosedd neu ddigwyddiad casineb ei riportio i'r heddlu.
7. Mae 72 o wledydd yn troseddoli perthnasoedd o'r un rhyw.
8. Mae chwarter poblogaeth y byd yn credu y dylai bod yn LHDT fod yn drosedd.
Gadael ymateb